Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid

 

Cofnodion

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015 12.15pm - 1.15pm

Ystafell Gynadledda 2, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

 

Yn bresennol:

Cyrnol Lance Patterson (yn bresennol ar ran Brigadydd Gamble)

Comander Andrew Loring (yn bresennol ar ran Comodor Jamie Miller)

Comodor yr Awyrlu Adrian Williams

Grŵp-gapten, Cydlynydd Rhanbarthol Dick Allen (Llu Awyr)

Lefftenant-gyrnol John Skipper - arweinydd Cynghorau Iechyd Cymuned ar gyfer y Lluoedd Arfog

Dr. Neil J. Kitchiner - GIG Cymru i gyn-filwyr (yn bresennol gyda'r myfyriwr nyrsio, Rhian Lewis)

Phil Jones - y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mike Simpson - Rheolwr Rhanbarthol (De) - DMWS (Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn)

Lisa Leece - Rheolwr Rhanbarthol Dros Dro (Gogledd) - DMWS

Lefftenant-gyrnol SMM Hughes - Dirprwy Brif Weithredwr - Reserve Forces and Cadets' Association for Wales (RF&CAW)

Mark Isherwood AC



Cafwyd ymddiheuriadau gan:

Brigadydd Gamble (a gynrychiolwyd gan y Cyrnol Lance Patterson)

Comodor Jamie Miller (a gynrychiolwyd gan Comander Andrew Loring)

Peter Evans - y Lleng Brydeinig Frenhinol (roedd Phil  Jones yn bresennol yn ei le)

David Rose - Cydgysylltydd Prifysgolion yn Cynorthwyo Personel y Gwasanaethau Amddiffyn a Anafwyd, a Glwyfwyd ac sy'n Sâl (UNSWIS)

Simon Thomas AC

 

Cyfarfod

 

Eitem 1:  Croeso a chyflwyniad gan y Cadeirydd

Croesawodd Darren Millar (DM) bawb i'r cyfarfod.

Cyflwynodd bawb eu hunain. (Gweler y rhestr bresenoldeb uchod)

Cyflwynodd DM Eitem 2.

 

Eitem 2:  Cyflwyniad: Cadetiaid yng Nghymru (Cyflwyniad PowerPoint ar gael ar gais)

Stephen Hughes o Reserve Forces and Cadets’ Association for Wales (RF&CAW)

 

Y prif bwyntiau a drafodwyd:

 

·         Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn canolbwyntio ar bersonél y lluoedd arfog a chyn-filwyr, ond mae wedi esgeuluso cadetiaid.  Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at rai yn ystyried y lluoedd arfog fel cymuned anghenus nad yw'n ymddangos fel ei bod yn rhoi unrhyw beth yn ôl.

·         Yn gyffredinol, mae cadetiaid yng Nghymru mewn iechyd da.

·         Rhaglen Ehangu'r Cadetiaid mewn Ysgolion yn Lloegr.

o   Goblygiadau posibl ar gyfer dyfodol y Cadetiaid yng Nghymru.

o   Cafwyd treialon cynnar yn Llanwern a Threorci ond, heblaw am hynny, nid yw Cymru wedi bod yn rhan o hyn.

§  Nid yw Llywodraeth Cymru wedi neilltuo adnoddau ychwanegol i hyrwyddo hyn.

§  Mae Ysgol Gymunedol Aberdâr wedi mynegi diddordeb mewn ffurfio Llu Cadetiaid Cyfunol.

·         Adolygiad Lefel Uchel o'r Cadetiaid.

o   Tri chanlyniadau y mudiad Cadetiaid:

§  Datblygiad. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n ymuno â lluoedd y Cadetiaid, yn ymuno â'r Lluoedd Arfog.  Dim ond ychydig o fudd i'r maes Amddiffyn y caiff y broses o ddatblygu pobl ifanc.  Fodd bynnag, mae'n cyfrannu at bolisi ehangach y Llywodraeth ac mae'r budd cymdeithasol yn sylweddol, felly gellir cyfiawnhau gwario.

§  Ymwybyddiaeth.  Caiff gallu Llywodraeth y DU i ffurfweddu, ariannu, cynhyrchu a chyflogi'r Lluoedd Arfog ei gryfhau drwy ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Lluoedd Arfog, a chefnogaeth boblogaidd ohonynt.  Wrth i'w faint leihau, mae'r her yn cynyddu, a dylid defnyddio pob dull arall sydd ar gael i Amddiffyn

§  Recriwtio.  Nid yw lluoedd y cadetiaid yn sianel ar gyfer mynediad i'r Lluoedd Arfog. Ond recriwtio yw'r canlyniad o luoedd y cadetiaid y mae gwerth uniongyrchol yn deillio ohono i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.  Mae'r Adolygiad, felly, yn argymell y dylai Amddiffyn roi recriwtio fel ei canlyniad gofynnol. Fodd bynnag, gwrthododd y Weinyddiaeth Amddiffyn yr argymhelliad hwn, gan nodi bod y tri chanlyniad yn gyd-ddibynnol a bod yn rhaid cynnal cydbwysedd rhyngddynt.

·         Gwobrau Arglwydd Raglawiaid  - Mae'r rhain yn tynnu sylw at bobl ifanc ysbrydoledig yn y Cadetiaid.

·         Mae Cadetiaid yn fwy gweladwy i'r cyhoedd na'r Lluoedd Rheolaidd a'r Lluoedd wrth Geffn.

·         Dylai lluoedd y Cadetiaid gael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith da y Lluoedd, ymgysylltu â'r gymuned a dangos bod y lluoedd milwrol yn rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau.

·         Dylai Cadetiaid fod yn Ddeniadol, Heriol, Gwerthfawr, Diogel

·         Bydd Rhaglen Waith Lluoedd Cadetiaid 2020 yn dwyn ynghyd bolisïau, argymhellion ac awgrymiadau adolygiadau at ei gilydd yn gydgysylltiol.

·         Allgymorth Ieuenctid.

o   Gweithio gyda phlant o gefndiroedd heriol mewn cydweithrediad â'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.

o   Mae rhaglenni gyda ffocws milwrol wedi'u cysylltu ar hyn o bryd ag ysgolion fel hyfforddiant Gogledd Cymru ac Academi Sgiliau'r Coleg Paratoi Milwrol.

·         Her Ysgolion Cymru - Ar hyn o bryd, mae RFCA Cymru yn ystyried a allai cadetiaid gefnogi'r rhaglen hon.

·         Mae'n bwysig i fudiad y Cadetiaid gael ei weld fel Sefydliad Ieuenctid ac nid arf recriwtio.

 

Cwestiynau a thrafodaeth:

Lisa Leece - Pa mor dda yw'r cysylltiadau ag Ysgolion y gogledd?

Ø  Mae cwmni o Fae Colwyn - North Wales Training yn gweithio gyda tua 40 o ysgolion yn cefnogi plant sydd mewn perygl o adael addysg.

Ø  De Cymru - Mae gan y Coleg Paratoi Milwrol raglen Academi Sgiliau sy'n gweithio ar raglen debyg.

 

Darren Millar (DM)

1)    Rhaglen Ehangu'r Cadetiaid mewn Ysgolion.  Byddai Llywodraeth Cymru wedi cael arian drwy'r Fformiwla Barnet i'r gyllideb addysg.  Pe bai'r rhaglen wedi cael ei hariannu a'i threfnu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn byddai wedi bod ledled y DU. A fu unrhyw drafodaeth i ystyried hyn?

Ø  Mae RFCA wedi bod yn gweithio gyda'r Adran Addysg a Sgiliau ac yn cwrdd i drafod hyn.

v   GWEITHREDU (ar gyfer Stephen Hughes): Gofynnodd DM a allai gael y ffigurau ar gyfer faint a gafodd Llywodraeth Cymru drwy Barnett o ganlyniad i Raglen Ehangu'r Cadetiaid mewn Ysgolion yn Lloegr.

2)    Recriwtio - Mae straeon diweddar y wasg wedi cyfleu barn negyddol o sefydliadau Cadetiaid fel mudiadau recriwtio. Mae ymgysylltu cadarnhaol ag Aelodau'r Cynulliad yn bwysig er mwyn rhwystro straeon fel hyn. A ellid cael rhagor o ymgysylltu? Awgrymodd DM y gallai Lluoedd y Cadetiaid yn lleol ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad lleol i'w gwahodd ar ymweliad = ffordd dda o ymgysylltu â'r gymuned ymellach.

Ø  Caiff Aelodau'r Cynulliad eu gwahodd i ddigwyddiadau cyffredinol a seremonïau penodol fel Gwobrau Arglwydd Raglawiaid.

                                          i.    Roedd cytundeb cyffredinol o amgylch y bwrdd y byddai gwahoddiadau i Aelodau ymweld â'r Cadetiaid yn syniad da i'w ddatblygu.

v   GWEITHREDU (ar gyfer Stephen Hughes): Trafodir hyn â chydweithwyr yn y Cydbwyllgor Cadetiaid ar 10 Mehefin

3)    Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda chadetiaid o ran cymryd rhan yn Her Ysgolion Cymru?

Ø  Ar hyn o bryd, mae'r RFCA yn cwrdd â swyddogion i wneud y gwaith paratoi ar gyfer cwrdd â'r Gweinidog yn y dyfodol.

v   GWEITHREDU (ar gyfer Stephen Hughes): Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Trawsbleidiol unwaith y bydd wedi cwrdd â'r Gweinidog. (Nodyn: trefnwyd y cyfarfod ar gyfer 22 Medi)

 

Comander Andrew Loring - Rhaglen Ehangu'r Cadetiaid yn Lloegr. Bu problemau gyda chyllid, yn enwedig mewn perthynas â bygythiad y bydd cyllid ysgolion preifat yn cael ei dynnu'n ôl. Mae pryder hefyd os bydd ysgol yn sefydlu Cadetiaid y gall effeithio ar y Lluoedd Cadetiaid eraill yn yr ardal.

 

Grŵp-gapten, Cadlywydd Rhanbarthol Dick Allen - mae dryswch rhwng Llu Cadetiaid Cyfunnol a'r Lluoedd Cadetiaid eraill.  Gall Cymru wneud yn well a dysgu oddi wrth y camgymeriadau a wnaed gyda'r rhaglen yn Lloegr.

 

 Lisa Leece - A allai Cadetiaid weithio gydag ysgol bartner yn hytrach na sefydlu grŵp newydd? - Gallai Partneriaeth eu gwneud yn gryfach.  Mae hyn wedi digwydd mewn rhai lleoedd yn Lloegr.

Ø  Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r syniad hwn ymhlith y grŵp.

Ø  Ychwanegodd Comander Andrew Loring y byddai hyn, yn seiliedig ar ei brofiad o weithio mewn ysgolion, yn boblogaidd gyda hwy hefyd.

 

 

Eitem 3:  Rhan a) Cyfamod y Lluoedd Arfog  (Cyflwyniad PowerPoint ar gael ar gais)

John Skipper - arweinydd CIC ar gyfer y Lluoedd Arfog

 Thema'r sgwrs: 'Cefnogi ein Lluoedd Arfog yng Nghymru - sut rydym ni'n gwneud: persbectif cyn-filwr'. Mae llawer o gyfarfodydd, fforymau a grwpiau wedi datblygu - yr amser cywir i sicrhau eu bod yn cyflawni'r hyn rydym am iddynt ei wneud. Nid ydym am golli'r momentwm a gwastraffu egni prin, adnoddau ac ewyllys da aruthrol sydd i'w gael. A ddylid cael gwell cydgysylltu canolog?

 

Y prif bwyntiau a drafodwyd:

·         Mae John yn trafod ei rôl fel cyn-filwr y Fyddin, sydd â 35 mlynedd o wasanaeth a'r profiad a'r dealltwriaeth sy'n gysylltiedig â hynny.

·         Mae angen parhaus i fonitro a chynnal cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.

·         Nid staff y lluoedd arfog a chyn-filwyr yw'r unig rai a gaiff eu heffeithio - Mae hefyd angen ystyried teuluoedd cyn-filwyr a theuluoedd milwyr presennol a theuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi marw. 

·         Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) Tynnodd yr adolygiad 'Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru' yn 2012 sylw at yr angen i gadw pethau'n gyfredol ac i beidio â cholli momentwm.

·         Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn llawn o eiriau cryf, ond mae angen iddo gysylltu â gweithredu.

·         Mae sylfeini rhagorol yn eu lle yng Nghymru, ond:

o   mae'n rhaid i Becyn Cymorth Llywodraeth Cymru weithio ar lawr gwlad

o   Roedd awdurdodau lleol yn araf yn ymuno â'r Cyfamod

o   Mae hyrwyddwyr y lluoedd arfog mewn awdurdodau lleol a'r GIG yn wirioneddol ymrwymedig ond bod eu dealltwriaeth weithiau'n brin.

o   Mae'r trydydd sector yn parhau i wneud gwaith rhagorol ac yn haeddu ei ganmol am y gwaith y mae'n yn ei wneud.

o   Mae'r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn ychwanegu lefel o waith craffu sy'n sicrhau bod yr holl olwynion yn troi'n dda.

o   A yw pobl yn deall yr heriau unigryw sy'n wynebu cyn-filwyr?

o   Mae arwyddion clir yn allweddol - mae llawer o wybodaeth ar gael, ond mae angen i bobl wybod ble mae.  Mae hyn wedi bod yn her benodol gyda'r nifer cynyddol o luoedd wrth gefn.

o   Mae'n rhaid osgoi cyflwyno cymuned y lluoedd arfog â gormod o wybodaeth gymhleth ac anhreiddiadwy.

o   Elusennau heb enw da - Naill ai'n honni eu bod yn 'gwella' PTSD drwy ddulliau amheus neu, fel enghraifft ddiweddar iawn yng Nghaerfyrddin, yn manteisio ar ewyllys da'r cyhoedd i godi arian na fydd, efallai, o fudd i gyn-filwyr.

o   Gallwn wneud yn well.

·         A yw'r strwythurau cywir yn eu lle?

o   Eiriolwr Lluoedd Arfog Cymru- June Milligan - Ond a ŵyr pobl pwy ydyw, a beth mae'n ei wneud?

o    A yw'r trydydd sector yn diwallu'r angen? A allent weithio gyda'i gilydd yn well?

o   Mae diffyg cydgysylltu - Mae llawer o egni da ond nid ydynt yn gweithio gyda'i gilydd.

o   Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban (Briff tair tudalen ar adroddiad Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban “Transition in Scotland Report 2015”, fel y paratowyd gan ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol i'w ddosbarthu yn y cyfarfod, ar gael ar gais).  Mae bellach wedi llunio strategaeth 3 blynedd ac adroddiad ar bontio ar gyfer y Lluoedd Arfog - mae'n werth cadw llygad ar hyn o safbwynt Cymru. Y cyfnod pontio yw'r broblem - mae rhai cyn-filwyr ei chael hi'n anodd.

·         Gofal iechyd a chyn-filwyr:

o   Mae Iechyd Meddwl yn parhau i fod yn stigma - wrth wasanaethu ac ar ôl ymddeol

§  Nid PTSD yw problem pob cyn-filwr - mae diagnosis cywir yn hanfodol, wedi'i ddilyn gan driniaeth a gymeradwywyd gyda llywodraethu clinigol proffesiynol

§  Mae'n rhaid sicrhau adnoddau digonol ar gyfer cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr - yn enwedig gan y bydd y galw yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. 

o   Roedd Adolygiad AGIC 2012 yn cynnwys barn bron i 250 o gyn-filwyr - roedd iechyd meddwl yn fater cyffredin ..

 

 

Rhan b) Diweddariad byr ar sefyllfa GIG Cymru i gyn-filwyr o ran gwasanaeth a chapasiti (cyflwyniad PowerPoint ar gael ar gais)

Dr Neil Kitchener - GIG Cymru i gyn-filwyr

 

Y prif bwyntiau:

·         Mae Neil a John wedi cwrdd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i drafod y materion hyn.

·         Mae cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd cyn-filwyr yng Nghymru yn llawer is nag ar gyfer yr Alban a Lloegr. Mae'r taliad untro o £100,000 a wnaed ym mis Medi 2014 wedi dod i ben ers mis Mawrth 2015 (cyllid saith mis).

o   Cyhoeddwyd cynnydd o £100,000 mewn cyllid yr wythnos diwethaf, ond mae rhestrau aros yn tyfu eto.  Caiff y cynnydd hwn ei groesawu, ond ni fydd yn cynnal y capasiti presennol.

·         Mae trafferthion o ran cyllid wedi creu ansicrwydd enfawr ymhlith y staff a'r cleifion.

o   Nid yw hyn yn dda ar gyfer morâl.

o   Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn rhan amser.

·         Nododd Ymchwil Academi Cymru ddiffyg o 132 awr yr wythnos yn y gwasanaeth cyn i'r staff newydd gael eu recriwtio yn dilyn yr hwb o £100,000. Ar ôl y hwb, roedd diffyg o 83 awr yr wythnos o hyd.

·         Cyfaddefodd Neil fod amcangyfrifon costau gwreiddiol a wnaeth GIG Cymru i gyn-filwyr yn 2009 yn rhy fach - roedd yr amcangyfrif yn rhy isel ganddynt.

·         Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gynnydd o £100,000 ar 22 Ebrill 2015 ond mae Neil yn amcangyfrif bod angen £500,000 yn ddelfrydol er mwyn iddynt allu dechrau gwneud gwaith allgymorth mewn carchardai yng Nghymru, gyda chyn-filwyr benywaidd, teuluoedd cyn-filwyr a phersonél sy'n gwasanaethu, sydd adref yn sâl ac a gaiff eu rhyddhau i'r GIG am resymau meddygol.

·         Y Byrddau Iechyd prysuraf yw:

o   Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU)

o   Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)

o   Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB)

 

Cwestiynau a thrafodaeth:

Darren Millar (DM)

1)    Mae angen gwaith craffu gwell - A fyddai Comisiynydd y Lluoedd Arfog ym mynd i'r afael â hyn?

a.    Mae dwy blaid, bellach, yn cefnogi'r syniad o Gomisiynydd y Lluoedd Arfog ac mae'r ddwy yn debygol o gynnwys hyn yn eu Maniffestos yn 2016.

b.    Cododd y Ceidwadwyr y syniad hwn yn y Senedd ym mis Tachwedd 2014.

c.    Caiff teuluoedd eu hanghofio yn aml wrth drafod y Lluoedd Arfog - un o'r rhesymau y mae ymgyrch y Ceidwadwyr o blaid Comisiynydd y Lluoedd Arfog yn hytrach na dim ond Comisiynydd Cyn-filwyr fel yn yr Alban.

v  GWEITHREDU: Gofynnodd Darren a fyddai modd i'r rhai sy'n cefnogi'r syniad o Gomisiynydd y Lluoedd Arfog ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi eu teimladau ar y mater.

 

 John: Mae trafferthion o ran gweithredu a chydgysylltu, y gallai Comisiynydd y Lluoedd Arfog helpu i roi sylw iddynt yng Nghymru. Mae Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn gwneud gwaith da, ac mae ganddo ddealltwriaeth dda o gyn-filwyr a'u hanghenion.  Mae angen cynnal y momentwm hwn. Rwyf yn siarad â Chomisiynydd yr Alban ar 28 Mai. Rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud yn dda i archwilio sut mae hyn yn gweithio yn yr Alban. Mae'n debyg y byddai'r gost gymharol fach yn cael ei gwrthbwyso gan y manteision gweithredol cronnol.

 

 Mike Simpson: Beth fyddai cyllideb a chylch gwaith Comisiynydd y Lluoedd Arfog i Gymru?

·         DM: Tebyg o ran cost i Gomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban.  Mae angen trafodaeth ynghylch cylch gorchwyl posibl swydd o'r fath.  Y gwaith yn y pen draw fyddai dwyn pob gwasanaeth cyhoeddus i gyfrif.

 

 Lance Paterson: Mae cynllun Grant Cyfamod y Cyn-filwyr yn cael ei drafod ond mae wedi arafu cyn yr etholiad.

v  GWEITHREDU: Bydd Lance Paterson yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am hyn a beth yw'r cyllid ar ei gyfer. 

 

 Phil Jones: Bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cwrdd â Chomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban ar 16/17 Mehefin, sydd yn gam cadarnhaol ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru fel pe bai'n cymryd diddordeb.

v  GWEITHREDU: Bydd Phil Jones yn adrodd yn ôl i'r Grŵp Trawsbleidiol ar ôl y cyfarfod uchod ynghylch unrhyw gynnydd.

 

Mark Isherwood: Mae Awdurdodau Lleol yn allweddol i sicrhau gweithrediad llawn Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae angen mwy o waith craffu arnynt.

Ø  Defnyddiodd DM y cyfle hwn i godi rhai materion a gododd etholwr Mark Isherwood.

§  Problemau gyda thai yn Sir Ddinbych a Wrecsam. Mae'r ddau awdurdod wedi cofrestru ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog, ond cafodd brofiadau gwahanol iawn.

§  Mae Mark wedi cysylltu â'r Gweinidog, sy'n ymchwilio i'r mater.  

v  GWEITHREDU: DM i ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol i weld a fyddai gany Pwyllgor ddiddordeb mewn ymchwilio i effaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch faint o gyllid sydd ei angen ar GIG Cymru i gyn-filwyr er mwyn gweithredu i'w gapasiti gorau posibl. 

Ø  Am 7 mis oedd y £100,000 cyntaf

Ø  Am 12 mis y mae'r £100,000 diweddar

Ø  DM: Mae bwlch o £170,000

Ø  Y targed o ran amser aros mewn gofal arferol yw 26 wythnos - mae disgwyl i gyn-filwyr fod yn flaenoriaeth.

Ø  Neil: Rydym 83 awr yr wythnos yn fyr, hyd yn oed pan oedd gennym y £100,000 yn ychwanegol am 7 mis. I'w cynnal, y cost fyddai £218,000.  Pe baem yn penodi 2.5 yn fwy o staff, byddai angen £125,000 = £343,000 - cynnydd o £100,000. Felly, mae angen £243,000 o gyllid pellach i ateb y galw.

v  GWEITHREDU: Ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y diffyg mewn cyllid.  Tynnu sylw hefyd at yr amrywiad mewn amseroedd aros ar draws y Byrddau Iechyd. Mae angen dybryd am arian ar rai byrddau iechyd.

Gofynnodd Mark Isherwood a oedd GIG Cymru i gyn-filwyr wedi llwyddo i ddod o hyd i adeilad yn ddi-drafferth.

Ø  Dywedodd Neil fod problemau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

v  GWEITHREDU: Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dim Unrhyw Fater Arall

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13:25.